Agor y brif ddewislen

Celwyddoniadur β

Un Fodolaeth Cef, Arth ac Elt

Arthur Miller yw Elton John. Elton John yw Cefin Roberts. Cefin Roberts yw Arthur Miller. Arthur Miller yw Cefin Roberts. Cefin Roberts yw Elton John. Ac yn y blaen.

Bu Miller yn briod a Marilyn Monroe. Ys gwelwn o'i gan enwog Candle in the Wind, y mae Elton yn hoff iawn o Marilyn Monroe. Fe'i gwelodd, o'i safle yn yr ail res ar hugain, fel rhywbeth mwy na rhywiol - mwy na dim ond "Marilyn Monroe".

Miller hefyd a ysgrifennodd y Crucible, drama a berfformiwyd yn ddiweddar gan genod bach o'r de oedd yn methu siarad ac mewn cyfieithiad stwff gan Gareth Miles (Commie Ola Cymru). Mae'r cwmni oedd ar fai am y cynhyrchiad hwnnw dan gyfarwyddyd Cefin.

Mae Cefin, fel Elton, yn greadur cerddorol; fodd bynnag, un gwahaniaeth dwbl-gwbl amlwg rhwng y ddau yw bod Elton John yn hoyw. Partner Elton yw David Furnish, ond nid oes sail i'r stori am Cefin yn dwyn carped gwerth £4000 a brynwyd gan y Cwmni Theatr ar gyfer set Cariad Mr Bustl (eto, cyfieithiad Gareth Miles) er mwyn ffyrnisho'i fflat ddel ei hun yng Nghaerdydd.

Y tri yn un a'r un yn dri yw'r Celtarth a addolwn ni.

Daffy.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu Celwyddoniadur drwy ei datblygu.